Polisi Cwynion

POLISI

Disgwyliwn y bydd y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn fodlon iawn â’r gwasanaeth a dderbyniant. Fodd bynnag, fel unrhyw sefydliad mae yna adegau pan fydd pobl yn teimlo yr hoffent wneud cwyn ffurfiol neu ddim ond cofrestru sylw ar ein gwasanaethau.

Dylai cwsmeriaid sydd am gwyno neu gofrestru sylw yn ffurfiol wneud hynny trwy dudalen “Cysylltu â Ni” y wefan neu ysgrifennu at Ymddiriedolwyr Ensemble Glyndwr trwy:

Ymddiriedolwyr yr Ensemble Glyndŵr

Cwynion

3 Tai’r Briallu,

Hirwaun,

Aberdâr

RCT.

CF44 9PQ

Cwsmeriaid nad ydynt yn gallu cyflwyno eu cwyn na chofrestru sylw trwy’r wefan neu’n ysgrifenedig e.e. oherwydd anabledd, dylai ffonio’r Cyfarwyddwr a’r Ymddiriedolwr ar 07730 585067 cyn pen 48 awr ar ôl y digwyddiad.

Bydd pob cwyn neu sylw yn cael ei chofnodi a’i chydnabod cyn pen 5 diwrnod gwaith.

GWEITHDREFN

Nod y weithdrefn ‘cwynion’ yw rhoi cyfle i gwsmeriaid sy’n anfodlon, gael sylw i’w pryder.

Bydd ymddiriedolwr yn ymchwilio i gwynion a sylwadau cofrestredig yn llawn a bydd y canlyniad yn cael ei gyfleu yn ôl i’r cwsmer. Rhaid i unrhyw gamau a gymerir gan y Cyfarwyddwr gael eu cofnodi ond nid oes rhaid eu cyfleu i’r cwsmer yn fanwl. Gweithred y Cyfarwyddwr yw’r cam olaf yn y Weithdrefn Cwynion.

Pe bai’r gŵyn yn erbyn y Cyfarwyddwr yna bydd Ymddiriedolwr arall yn cynnal yr ymchwiliad.

Os derbynnir cwynion sy’n fygythiol neu’n ymosodol neu’n cael eu cwyno dro ar ôl tro gan yr un person am yr un mater neu fater tebyg, mae gan Ymddiriedolwyr Ensemble Glyndŵr yr hawl i wrthod ymateb cyn belled â bod unrhyw gŵyn benodol wedi’i datrys a’i chyfleu.

Bydd cofnodion o gwynion neu sylwadau cofrestredig yn cael eu cadw am ddwy flynedd ac yna’n cael eu dinistrio.