Y rhai sydd dan anfantais oherwydd anabledd

Gall therapi cerdd helpu i wella symptomau meddyliol a chorfforol amrywiol gan gynnwys lleihau poen, pryder a thensiwn. Gall fod yn fuddiol i’r rheini sydd ag anhwylderau meddyliol, cam-drin emosiynol difrifol neu ysgafn, deubegwn ac anhwylderau difrifol eraill. Gall gynyddu sgiliau cymdeithasol a gall helpu’r rhai sydd wedi tynnu’n ôl. Gall pawb fwynhau cerddoriaeth, trwy wrando ar gerddoriaeth hyfryd yn unig, sesiwn sengl neu mewn rhai achosion trwy “gael chwyth” eu hunain.

Gan weithio ar y cyd â grwpiau lleol mae ein sesiynau fel arfer yn para rhwng 30 munud i awr ac wedi’u cynllunio rhwng eich arweinwyr a ninnau. Bydd y sesiynau bob amser o dan reolaeth y staff. Mae pob un o’n cerddorion wedi dilyn cwrs rhagarweiniol mewn ymwybyddiaeth iechyd meddwl. Fel rhan o’r broses gynllunio cynhelir asesiad risg i ddiogelu pawb sy’n ymwneud â’r prosiect allgymorth.

I gael mwy o wybodaeth am gynnal prosiect, cysylltwch â Paul Robinson (Cyfarwyddwr) trwy e-bost : paul@glyndwrensemble.com neu dros y ffôn: 077305 85067